Dyma adborth, sylwadau a barn am ddarpariaeth 'Cynnydd Digidol'.
Mae Dosbarth Teifi (Blwyddyn 5 a 6) yn Ysgol Llanybydder wrth eu boddau yn croesawu Mr Roderick i'n dosbarth. Rydym wedi bod yn hynod ffodus i elwa o arbenigedd Heulyn yn ystod nifer o weithdai ysbrydoledig ac addysgiadol, sydd nid yn unig wedi gwella sgiliau cymhwysedd digidol y disgyblion, ond fy sgiliau personol i hefyd.
Yn ddiweddar, mwynhaodd y plant weithdy digidol gyda Heulyn, yn canolbwyntio ar ddiogelwch ar-lein. Dechreuwyd gyda thrafodaethau aeddfed ar fanteision ac anfanteision y rhyngrwyd, cyn trafod diogelwch ar-lein mewn mwy o fanylder. Yna, dangosodd Heulyn i’r dosbarth sut i ddefnyddio Google Sites, gan alluogi'r plant i greu eu tudalennau gwe eu hunain ar ddiogelwch ar-lein.
Roedd y gwefannau o ansawdd uchel ac yn ddeniadol tu hwnt, yn cynnwys gwybodaeth bwysig ac addas. Roedd sesiwn y prynhawn yn galluogi’r disgyblion i gymhwyso eu gwybodaeth foreol trwy greu a golygu eu sioe radio eu hunain. Hyfryd oedd gweld brwdfrydedd pob plentyn, a rhannwyd y rhaglen radio gyda'r rhieni, gan feithrin ymdeimlad o falchder a chyflawniad.
Yn ogystal, mae Heulyn wedi cynnal gweithdai ymarferol a chyffrous, lle bu disgyblion yn casglu data, yn creu graffiau, ac yn defnyddio taenlenni trwy weithgareddau megis mesur cyflymder ciciau cosb pêl-droed a phellteroedd rhwyfo ar beiriant 'Concept 2'.
Mae gallu Heulyn i addasu i anghenion amrywiol dysgwyr, ynghyd â'i agwedd bositif a chyfeillgar, yn meithrin amgylchedd lle mae pob plentyn yn profi llwyddiant.
Edrychwn ymlaen at groesawu Mr Roderick yn ôl i’n dosbarth yn fuan.
Heulwen Williams
(Athrawes Blwyddyn 5 & 6)
Diolch o waelod calon i Heulyn Roderick am ddarparu profiadau cyffrous a chyfoethog wrth ddatblygu medrau Cymhwysedd Digidol ein disgyblion ar draws y cwricwlwm.
Bu’n ymweld â ni yn wythnosol dros gyfnod o hanner tymor gan baratoi ac addysgu gwersi ymarferol o ansawdd arbennig bob tro. Llwyddodd y plant i recordio eu cyflymder rhedeg a phellter rhwyfo yn ddigidol gan greu taenlenni i ddadansoddi a chymharu eu canlyniadau. Cynhyrchwyd a golygwyd rhaglenni radio proffesiynol a diddorol dros ben gan ddefnyddio meddalwedd Audacity a rhannwyd y gwaith gyda’r cyhoedd.
Defnyddiwyd sgrîn werdd a chamera fideo er mwyn creu ffilmiau gwybodaeth rhagorol i’w rhannu gyda rhieni.
Roedd Heulyn wedi paratoi yn drylwyr ac yn dod ag offer arbenigol er mwyn gwella ein darpariaeth yn yr ysgol ac roedd pob sesiwn yn gynhyrchiol dros ben gan gynnig gwerth da iawn am arian. Roedd y plant wrth eu boddau ac yn ymateb yn bositif tu hwnt i’w sesiynau.
Llwyddodd i uwch-sgilio’r disgyblion a’r staff mewn ffordd gynnes a chyfeillgar ac edrychwn ymlaen yn fawr iawn i gydweithio ag ef eto yn y dyfodol agos.
Mrs. Heini Thomas
Pennaeth - Ysgol Y Dderi
Diolch yn fawr i Heulyn am ddarparu datblygiad proffesiynol effeithiol iawn ar gyfer y staff.
Mae’r staff wedi elwa’n fawr iawn o’r hyfforddiant ac o ganlyniad wedi gwella’i ymwybyddiaeth am Gymhwysedd Digidol er mwyn ymateb i ofynion Cwricwlwm i Gymru. Mae’r ddarpariaeth ar gyfer datblygu medrau digidol 'Data a Meddwl Cyfrifiadurol' wedi gwella’n sylweddol ar lawr y dosbarth.
Fe wnaeth y disgyblion elwa’n fawr iawn yn ogystal, drwy ymgymryd â gweithgareddau a phrofiadau Cymhwysedd Digidol ysbrydoledig a oedd yn ateb ein gofynion, yn dilyn ein prosesau hunanwerthuso. Fel ysgol fe wnaethom adnabod bylchau yn ein darpariaeth ar gyfer Data a Thaenlenni. Roedd y bylchau yma yn deillio o ddiffyg hyder ymhlith staff i ymdrin â’r agweddau penodol yma.
Mae’r model yma o weithio yn sicr wedi bod yn llwyddiant mawr i’r ysgol trwy gyfuno datblygiad staff gydag ymgorffori a datblygu medrau digidol ein disgyblion.
Edrychwn ymlaen at barhau efo'r bartneriaeth broffesiynol a llewyrchus gyda ‘Cynnydd Digidol’ yn y dyfodol, gan ddiolch i Heulyn am ei gyfraniad pwysig ym maes Datblygiad Proffesiynol staff yr ysgol.
Mrs. Carys Richards
Pennaeth - Ysgol Gynradd Cefneithin
Diolch Heulyn am ddarparu'r Hyfforddiant Datblygiad Proffesiynol gorau i staff yr ydym wedi ei brofi ers blynyddoedd lawer.
Trwy'n prosesau hunanwerthuso roedd yr ysgol wedi adnabod bylchau yn ein darpariaeth ar gyfer Cymhwysedd Digidol a'r bylchau yma yn deillio o ddiffyg hyder ymhlith staff i ymdrin a rhai agweddau penodol o'r fframwaith, e.e. Logo, Codio, Taenlenni a golygu sain a fideo.
Yn dilyn sgwrs efo Heulyn a chytuno ar gynllun hyfforddiant ysgol gyfan, ymwelodd yn wythnosol â'r ysgol gan ddarparu gwersi Cymhwysedd Digidol penodol i'r disgyblion, tra ar yr un pryd hyfforddi'n staff ar sut i gyflwyno'r medrau yma yn effeithiol yn y dyfodol, trwy brofiadau rhifedd a llythrennedd trawsgwricwlaidd.
Canlyniad hyn oedd cynnydd sylweddol mewn medrau Cymhwysedd Digidol disgyblion ar draws yr ysgol, ehangder cynyddol yn y profiadau technoleg gwybodaeth cyfoethog a gyflwynir i'r disgyblion fel rhan o'r dysgu, a chynnydd sylweddol mewn hyder a gwybodaeth staff ar sut i gyflwyno'r medrau yma i'r disgyblion yn naturiol fel rhan o'r dysgu trawsgwricwlaidd .
Edrychwn ymlaen at barhau efo'r bartneriaeth broffesiynol lewyrchus efo Cynnydd Digidol gan ddiolch i Heulyn am ei gyfraniad pwysig ym maes Datblygiad Proffesiynol staff yr ysgol.
Mr. Aled Evans
Pennaeth Ysgol Carreg Hirfaen
Diolch yn fawr i ti Heulyn am ddarparu datblygiad proffesiynol rhagorol i’r staff.
Mae’r staff wedi elwa’n fawr iawn o’r hyfforddiant ac wedi gwella’i ymwybyddiaeth am Gymhwysedd Digidol a'r hyn sydd ar gael trwy Hwb i ymateb i ofynion Cwricwlwm i Gymru. O ganlyniad mae’r ddarpariaeth ar gyfer datblygu medrau digidol wedi gwella’n sylweddol ar lawr y dosbarth.
Fe wnaeth y disgyblion hefyd elwa’n fawr iawn drwy ymgymryd â gweithgareddau a phrofiadau Cymhwysedd Digidol ysbrydoledig a oedd yn ateb gofynion y Fframwaith h.y. Creu Gwefannau a Recordio a Golygu Rhaglen Radio.
O ganlyniad i hyn mae gwybodaeth y disgyblion am gadw’n ddiogel ar lein wedi gwella’n sylweddol.
Mae’r model yma o weithio yn sicr wedi bod yn llwyddiant mawr i’r Ffederasiwn drwy gyfuno datblygiad staff gydag ymgorffori a datblygu medrau digidol ein disgyblion.
Byddwn yn sicr yn defnyddio 'Cynnydd Digidol' yn y dyfodol i ddatblygu ymhellach ein gallu i gyflwyno sgiliau Cymhwysedd Digidol.
Mr. Gareth Rhys Jones
Pennaeth - Ysgolion Bancyfelin, Llangain a Llansteffan (Ffederasiwn)
Fe wnaeth Heulyn Roderick, ddarparu datblygiad proffesiynol rhagorol o ran Cymhwysedd Digidol ar draws yr ystod oed cynradd drwy gydweithio’n agos gydag athrawon a staff cynorthwyol a hynny ar lawr y dosbarth.
Fe wnaeth y disgyblion elwa’n fawr iawn drwy ymgymryd â gweithgareddau a phrofiadau Cymhwysedd Digidol cyfoethog a niferus a oedd yn ateb gofynion y Fframwaith.
Gallaf dystio bod y model yma o weithio wedi bod yn llwyddiant mawr yn Ysgol Rhys Prichard drwy gyfuno datblygiad staff gydag ymgorffori a datblygu sgiliau digidol ar draws y 6 Maes Dysgu a Phrofiad.
Edrychwn ymlaen at ddefnyddio darpariaeth ‘Cynnydd Digidol’ eto yn y dyfodol.
Mr. Edward Davies
Pennaeth Ysgol Rhys Prichard
Fel cydlynydd Cymhwysedd Digidol Ysgol Ffynnonbedr ac Ysgol Bro Pedr gweler y dyfyniadau isod o ddau arolwg gan Estyn o ran darpariaeth TGCh / Cymhwysedd Dididol, ynghyd ag adroddiad ar baratoi ar gyfer cyflwyno'r Ff. C. D.
Ysgol Ffynnonbedr
“Gwneir defnydd rhagorol o’r ystafell TGCh i gyrraedd safonau uchel iawn yn y pwnc. Caiff y disgyblion mwyaf galluog eu herio’n dda yn y mwyafrif mawr o’r gwersi. Cânt eu herio’n rhagorol ym maes TGCh drwy’r ysgol.
”Mae disgyblion B5 a B6 yn defnyddio meddalwedd heriol yn gelfydd a hyderus iawn. Mae’r gwaith paratoi cyn symud ymlaen yn elfen ragorol o’r gwaith”.
Ysgol Bro Pedr
"Mae’r ddarpariaeth ar gyfer TGCh yn y Cyfnod Sylfaen a chyfnod allweddol 2 yn ardderchog ac yn effeithio’n gadarnhaol iawn ar safonau’r disgyblion. Mae bron pob un yn defnyddio’u medrau’n hollol hyderus ac effeithiol iawn ar draws y cwricwlwm cyfan.
Mae’r ‘Dewiniaid Digidol’ yn datblygu medrau TGCh eu cyfoedion yn arbennig o dda ac yn cynnal y clwb codio. Mae medrau cyfathrebu, trin data a modelu o safon uchel iawn yn y sector cynradd.
Mae ystod medrau technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh) sydd gan y disgyblion erbyn diwedd y Cyfnod Sylfaen a diwedd cyfnod allweddol 2 yn ardderchog."
Estyn - Paratoi ar gyfer y Fframwaith Cymhwysedd Digidol
"Mewn ychydig enghreifftiau, fel yn Ysgol Bro Pedr, dechreuodd arweinwyr digidol waith datblygiadol gyda chydweithwyr trwy wirio p’un a oedd staff yn hyderus eu bod yn meddu ar fedrau digidol sylfaenol cadarn.
Yna, fe wnaethant wirio p’un a oedd y staff yn meddu ar y medrau gofynnol i gyflwyno holl linynnau’r cwricwlwm TGCh presennol i adeiladu arnynt, cyn dechrau ar y Fframwaith.
Mae staff sy’n cymryd rhan yn yr hyfforddiant sylfaenol hwn yn gwerthfawrogi’r cymorth hwn gan gymheiriaid, sy’n cael ei gynnig mewn amgylchedd cefnogol lle y gallant ddysgu heb ofn, a lle nad yw’r un cwestiwn yn rhy sylfaenol."