Opsiynau posib sydd hefyd yn hyblyg iawn.
Diwrnod i ddatblygu prosiect penodol sy'n ateb gofynion y Fframwaith Cymhwysedd Digidol.
Cyfres o ddiwrnodau i ddatblygu agweddau amrywiol sy'n ateb gofynion y 4 llinyn o fewn y Fframwaith Cymhwysedd Digidol.
Hyfforddiant i staff ar agwedd penodol o'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol.
Diwrnodau o wersi digidol mewn achosion o absenoldeb staff.
Creu gwefan ar gyfer eich ysgol gan gynnwys hyfforddiant i staff er mwyn iddynt fedru diweddaru'r cynnwys yn hwylus.
Beth yw fformat y diwrnodau?
Modelu gwersi cyffrous ac ysgogol ar lawr y dosbarth gyda'r disgyblion a'r staff er mwyn cefnogi datblygiad a chodi hyder wrth ddefnyddio meddalwedd a chyfarpar digidol cyfredol.
Fe all 'Cynnydd Digidol' gynnig ystod ac amrywiaeth helaeth ac eang o weithgareddau diddorol a symbylus.
Dyma rai enghreifftiau i roi blas o'r hyn y gallwn ddatblygu gyda'r disgyblion a'r staff ond cofiwch gysylltu i drafod y ddarpariaeth a fydd yn addas ar gyfer eich ysgol.
GWEITHGAREDDAU
Fframwaith Cymhwysedd Digidol
Creu, dehongli a dadasoddi Bas Data a Thaenlenni
Gweithgareddau mewnbynnu data, cyfrifo gan ddefnyddio Fformiwla, hidlo gwybodaeth a chreu graffiau pwrpasol i adlewyrchu data.
Dadansoddi'r taenlenni er mwyn hybu a sicrhau dealltwriaeth.
Llinyn 3 Cynhyrchu
Grŵp Targed
Cam Cynnydd 2 a 3
Creu Gwefannau
Disgyblion yn creu gwefan ar gyfer eu dosbarth / cam cynnydd i adlewyrchu eu profiadau ar draws Meysydd Dysgu a Phrofiad - Cwricwlwm i Gymru. Cofnodi gweithgaredd ar y wefan er mwyn cyflwyno i rieni / llywodraethwyr ac er mwyn dathlu gweithgareddau’r disgyblion.
Diweddaru a chyhoeddi ar ddiwedd tymor neu wrth fynd ymlaen.
Disgyblion yn creu gwefan ar gyfer eu portffolio unigol er mwyn cynnwys enghreifftiau o waith a llwyddiannau yn ystod eu cyfnod yn yr Ysgol.
Llinyn 3 Cynhyrchu
Grŵp Targed
Cam Cynnydd 2 a 3
Creu Rhaglen Radio – e.e. - ‘Cadw’n Ddiogel ar lein’
Trafod Cadw’n ddiogel ar lein, yna sgriptio, ymarfer, recordio a golygu ffeiliau sain ac ychwanegu Jingle / cerddoriaeth i greu Rhaglen Radio ar ddefnydd cyfrifol o dechnoleg fodern. Cyhoeddi'r rhaglen ar Youtube.
Gellir creu rhaglen i gyd fynd gyda'r thema neu unrhyw achlysur penodol.
Llinyn 1 - Dinasyddiaeth
Ll 2 - Rhyngweithio a Chydweithio
Ll 3 - Cynhyrchu
Grŵp Targed
Cam Cynnydd 2 a 3
Taclo Taenlenni
Cyflwyniad i ddefnydd taenlenni. Creu Rhifau, Llythrennau a darluniau diddorol mewn fformat - 'Pixel Art'
Gweithgareddau mewnbynnu data, cyfrifo gan ddefnyddio Fformiwla, hidlo gwybodaeth a chreu graffiau pwrpasol i adlewyrchu data.
Dadansoddi'r taenlenni er mwyn hybu a sicrhau dealltwriaeth.
Ll 4 – Data Meddwl Cyfrifiadurol
Grŵp Targed
Cam Cynnydd 2 a 3
Datblygu sgiliau ‘Trin Data’ drwy Addysg Gorfforol
Casglu, dadansoddi a dehongli data drwy brofion Ffitrwydd amrywiol.
Mesur Cyflymdra Rhedeg, Cicio pêl drwy ddefnydd ‘SPORTS RADAR’.
Sialens Rhwyfo mewn munud ar beiriant 'CONCEPT 2'
Bleep Test, Gweithgareddau Neidio / Taflu a.y.y.b.
Ll 4 – Data Meddwl Cyfrifiadurol
Grŵp Targed
Cam Cynnydd 2 a 3
Trin Data drwy ddefnydd Bas Data Canghennog
Creu bas data 'Cangen' gan ddefnyddio Jit5 mewn cyd-destun sy'n ymwneud gyda'r thema gyfredol.
Ll 4 - Data Meddwl Cyfrifiadurol
Grŵp Targed
Cam Cynnydd 1 a 2
Cynllunio, Creu a Dadansoddi - Bas Data
Casglu data perthnasol, creu a dadansoddi Cofnod Data
Enghreifftiau o fas data - Chwaraewyr Rygbi a Phel Droed Cymru.
Chwaraewyr Rygbi Y Llewod, Cwpan y Byd Fifa gan gynnwys pob chwaraewr.
Milwyr yr Ail Ryfel Byd, Teithwyr y Titanic, ayyb
Llinyn 4 -
Data Meddwl Cyfrifiadurol
Grŵp Targed
Cam Cynnydd 2 a 3
Sgriptio, Recordio a Golygu ffilm
Creu ffilm i gyd fynd gyda'r thema neu gyd-destun arbennig.
e.e. Ffilm am sut i gadw'n ddiogel ar lein / Chwedlau enwog o Gymru ayyb
Llinyn 3 - Cynhyrchu
Grŵp Targed
Cam Cynnydd 2 a 3
Creu ffilm gan ddefnyddio Sgrin Werdd
Defnyddio app ‘Do Ink’ Green Screen i recordio a golygu drwy ddefnydd technoleg Sgrin Werdd.
Llinyn 3 Cynhyrchu
Grŵp Targed
Cam Cynnydd 2 a 3
Datblygu Medrau Llythrenedd, Rhifedd a Chymhwysedd Digidol Amrywiol drwy ddefnydd ymestynnol o feddalwedd Jit 5
Defnyddio’r 6 rhaglen ar gyfer datblygu medrau Llythrennedd, Rhifedd a Chymhwysedd Digidol.
Llinyn 1, 2, 3, 4
Grŵp Targed
Cam Cynnydd 1 a 2
Creu Animeiddiad
Creu animeiddiad i gyd fynd gyda stori.
Creu animeiddiad gan ddefnyddio symbyliad o rai o Chwedlau enwog Cymru. e.e. Bendigeidfran y cawr yn croesi môr Iwerddon i achub ei chwaer Branwen.
Llinyn 3 Cynhyrchu
Grŵp Targed
Cam Cynnydd 2 a 3
Rheoli
Ysgrifennu cyfarwyddiadau ar gyfer y ‘Crwban’ er mwyn datblygu sgiliau codio.
Creu onglau, rhifau, llythrennau, siapiau amrywiol a chreu stori drwy ddefnydd 'Logo'.
Ll 4 - Data Meddwl Cyfrifiadurol
Grŵp Targed
Cam Cynnydd 2 a 3
Rheoli
Cyfrifo a chreu Polygonau amrywiol gan ddefnyddio cyfarwyddiadau 'Logo'.
Ll 4 - Data Meddwl Cyfrifiadurol
Grŵp Targed
Cam Cynnydd 2 a 3
Danfon a derbyn e - bost
Creu, danfon, derbyn, a threfnu negeseuon e bost gan ychwanegu atodiad e.e dogfennau, lluniau, sain a fideo.
Ll 2 - Rhyngweithio a Chydweithio
Grŵp Targed
Cam Cynnydd 2 a 3