Mae'r prosiect, yn archwilio hanes cyfoethog Cei Newydd a ddisgrifiwyd gan Dylan Thomas fel "Cliff Perched Toppling Town”. Gan ddefnyddio cyfryngau digidol fel ffilm, animeiddio, deallusrwydd artiffisial, taenlenni, a chronfeydd data, mae disgyblion wedi ymchwilio a phortreadu hanes yr ardal mewn ffyrdd dyfeisgar. Cawsant fewnwelediad gwerthfawr, drwy ymweliadau lleol a chyfweliadau gydag aelodau'r gymuned, gan ddatgelu straeon personol a chysylltiadau hanesyddol diddorol.
Mae'r cyfuniad o dechnoleg ddigidol ac ymchwil uniongyrchol wedi dyfnhau gwerthfawrogiad a dealltwriaeth y disgyblion o'u treftadaeth ac wedi sicrhau bod hanes lleol yn cael ei rannu gyda’r gymuned leol.
Cliciwch ar y ddolen isod
Gwobr Rhagoriaeth Digidol 2025
Gwobr 1af - Ffilm gorau Ysgolion Cynradd Cymru
Cystadleuaeth Adobe / Hwb 2025
Gwobr 1af - Ffilm gorau Ysgolion Cynradd Cymru Cystadleuaeth Adobe / Hwb 2025
Mae'r ffilm ‘CONTRABAND’ yn mynd â ni yn ôl i arfordir Ceredigion yn y 18fed ganrif, lle bu smyglwyr dewr a beiddgar yn herio awdurdod y Goron. Mae swyddogion di-baid ac anfaddeugar y tollau, yn crwydro’r glannau creigiog a'r cildraethau diarffordd, yn benderfynol o ddileu'r smyglo.
Er gwaethaf eu hymdrechion, mae John White a adnabyddir yn lleol fel ‘Sion Cwilt’ yn parhau i fod yn gymeriad cyfrwys a dirgel sydd bob amser un cam ar y blaen, gyda’i orchestion yn tyfu’n fwy chwedlonol gyda phob noson sy’n mynd heibio.
Cynhyrchwyd gan ddisgyblion Ysgol Cei Newydd mewn partneriaeth gyda - CYNNYDD DIGIDOL
Mae'r ffilm hon, sy'n seiliedig ar raglen radio a wnaeth ennill y wobr gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Dur a Môr 2025. Mae'r cynnwys yn trafod y gair Cymraeg “Ysgol,” sy'n â 2 ystyr yn y Gymraeg. Trwy straeon, lleisiau a delweddau creadigol, mae'r ffilm yn dangos sut mae dysgu yn ein helpu i ddringo ysgol bywyd. Rydym wedi trawsnewid y rhaglen radio gwreiddiol i fod yn ffilm lliwgar ac ysbrydoledig.
Cynhyrchwyd gan ddisgyblion Ysgol Cei Newydd mewn partneriaeth gyda - CYNNYDD DIGIDOL
Fe wnaeth disgyblion Ysgol Cei Newydd greu'r ffilm yma gan ddefnyddio meddalwedd “Animate Your Voice” Adobe Express. Mae'r ffilm yn hyrwyddo pentref glan môr hyfryd -Cei Newydd. Gyda lluniau hyfryd, fideo diddorol a lleisiau cyfeillgar, mae’n dangos y siopau a’r busnesau lleol sydd yn y pentref. Mae’n annog pawb i ymweld, archwilio a chefnogi'r pentref hyfryd yma. .
Cynhyrchwyd gan ddisgyblion Ysgol Cei Newydd mewn partneriaeth gyda - CYNNYDD DIGIDOL
Fflim gan Grŵp Gweithredu dros yr Hinsawdd Sir Gâr wrth ymateb i ‘Ddiwygio Gwastraff 24’
Mae'n tynnu sylw at y Deddfau Ailgylchu Newydd i Gymru a ddaw i rym o fis Ebrill 2024.
This film was created by:- Carmarthenshire Climate Action Group in response to 'WASTE REFORM 24'.
It highlights the New Recycling Laws for WALES which come into force from April 2024.
Ffilm sy'n codi ymwybyddiaeth ac yn tanlinellu pwysigrwydd bod yn ddwyieithog a siarad Cymraeg.
Cynhyrchwyd gan ddisgyblion Ysgol Y Dderi mewn partneriaeth gyda CYNNYDD DIGIDOL.
Ffilm sy'n codi ymwybyddiaeth ac yn tanlinellu pwysigrwydd creu 'Arferion Iach' er mwyn gofalu am y corff a'r meddwl.
Cynhyrchwyd gan ddisgyblion Ysgol Y Dderi mewn partneriaeth gyda CYNNYDD DIGIDOL.
Rhaglen radio am gadw'n ddiogel ar lein.
Rhaglen radio am gadw'n ddiogel ar lein
Rhaglen radio am gadw'n ddiogel ar lein.
Rhaglen radio am gadw'n ddiogel ar lein.